Wythnos Gwirfoddolwyr: Shawn

Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym yn cynnwys stori bob diwrnod gan wirfoddolwr, lle maen nhw’n rhannu eu profiadau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Fy Ymweliad ag India

Yn 2017, mi wnes i wirfoddoli i ofalu am grŵp dawnsio a oedd yn cystadlu yn yr Eisteddfod, sef y Real Folk Cultural International Academy, grŵp dawnsio Bhangra o Ludhiana.

Real Folk Cultural International Academy Dance Group, Ludhiana

Fel gwesteiwr, rydych chi’n cyfarfod ac yn cyfarch y grŵp, rydych chi’n cysylltu â’r swyddfa, yr adran gludiant, y criwiau teledu os oes angen, yn dangos iddyn nhw lle mae angen iddyn nhw fod wrth gystadlu a’u hebrwng, ac yn gyffredinol rydych chi’n gofalu amdanyn nhw trwy gydol eu harhosiad ac yn cynnig Croeso Cymreig go iawn iddyn nhw.

Beth ges i am fy wythnos o waith caled? Cefais gyfle i gyfarfod efo grŵp o ddawnswyr brwdfrydig a oedd wrth eu boddau i fod yma, dysgais am ddiwylliant a chrefydd newydd, dysgais ychydig o gamau dawnsio newydd, ond yn fwy na dim mi wnes i ffurfio cyfeillgarwch arbennig. Gwelais eu brwdfrydedd a’u heiddgarwch a’u cyffro diffuant wrth ennill tlws, ac ar ddiwedd yr wythnos, er fy mod i wedi blino’n lân yn gorfforol ac yn emosiynol, roedd gen i atgofion bythgofiadwy.

Pan wnaethon nhw ofyn i mi ymweld â nhw yn Ludhiana, roeddwn wrth fy modd. Roeddwn eisoes wedi trefnu ymweld ag India, triongl Delhi, Agra a Jaipur, felly mi wnes i ymestyn fy nhaith a hedfan i fyny i’r gogledd i Chandigarh. Yn y maes awyr cyflwynwyd blodau i mi a roddwyd gan Gurjeet Cheema Singh, Llywydd yr RFCIA a’i gyfaill da Satvir Singh. Dilynwyd hynny gyda chinio a chael fy nhywys i weld safleoedd enwog cyn teithio ymlaen i’m gwesty yn Ludhiana. Yn nes ymlaen cefais fy nghodi ac aethpwyd â mi i barti a drefnwyd ymlaen llaw a roddwyd er anrhydedd i mi! Cefais fy nghyfarch gan y cystadleuwyr a’r gwesteion, ac roedd yn brofiad teimladwy iawn wrth i mi brofi eu caredigrwydd a’u croeso yn ogystal â derbyn anrhegion a llun phortread hyfryd a dynnwyd gan Ravi. Cawsom arlwy o fwyd blasus hefyd gyda digon o ddawnsio, roedd hi’n noson wych.

Y diwrnod canlynol mi wnaethon ni deithio i Amritsar, i ymweld â’r Deml Aur (Sri Harmandir Sahib), y Gurdwara mwyaf sanctaidd a safle pererindod pwysicaf Sicaeth. Cefais y fraint o gael fy ngwahodd ac ymunodd gwragedd Gurjeet a Satvir’, sef Gurjinder a Rajwinder a’u dau fachgen hyfryd â ni. Roedd hwn yn ddiwedd arbennig iawn i’m hymweliad cyntaf ag India.

Shawn

Shawn Davies Gwirfoddolwyr
Pwyllgor Cystadleuwyr

 

Oeddech chi’n gwybod fod angen 800 o wirfoddolwyr i lwyfannu Eisteddfod lwyddiannus?

Yn gytûn yn eu hymroddiad i’r ŵyl a’r pethau da y mae’n eu cynrychioli, mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser a’u doniau yn ystod y flwyddyn ac mae llawer yn teithio o bell er mwyn rhoi help llaw yn ystod wythnos yr Eisteddfod. A hoffech chi ymuno â nhw?