Hafan

Amdanom Ni

Newyddion

Eisteddfod 2011

Eisteddfod 2012

Cefnogwch Ni

Cysylltu â Ni

 

Newyddion

Cyngerdd Gala Ryngwladol
Faryl Smith
Neuadd William Aston
Nos Wener Mawrth 2ail

cliciwch yma...

 

Dilynwch ni ar

Llangollen on Facebook

Llangollen 2012 on Twitter

 

Lle mae Cymry'n Croesawu'r Byd

Chwe diwrnod o'r gerddoriaeth a'r dawnsio gwerin gorau, a'r byd i gyd mewn un lle!

Bob haf ers 1947, mae Llangollen wedi llwyfannu un o wyliau diwylliannol mwayf ysbrydoliadol y byd. Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae dros 4,000 o berfformwyr o bedwar ban byd yn teithio i'r dref fach Gymreig hyfryd i gymryd rhan mewn digwyddiad unigryw sy'n cyfuno cystadlu, perfformio, heddwch rhyngwladol a chyfeillgarwch. Mae tua 25 o wahanol gystadlaethau yn dathlu cân, cerddoriaeth a dawns, gan ddod i uchafbwynt gyda 'Côr y Byd' ble mae'r corau buddugol yn cystadlu am Dlws Pavarotti.

Cyngherddau Enwogion

Gyda'r nosau, mae cymysgedd amrywol o artistiaid enwog rhyngwladol yn cymryd i'r llwyfan ar gyfer cyfres o gyngherddau hudolus. Cliciwch yma i ddarganfod pa artistiaid enwog fydd yn perfformio yn Eisteddfod Rhyngwladol eleni.

2012 Eisteddfod: 3 - 8 Gorffennaf

Mae 66ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei chynnal o ddydd Mawrth 3 – dydd Sul 8 Gorffennaf 2012. Am fwy o wybodaeth ac i archebu ar-lein cliciwch yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cystadlu yn yr wyl, lawrlwythwch Faes Llafur 2012.

Cyngerdd Gala Ryngwladol: Nos Wener Mawrth 2ail

Neuadd William Aston, Wrecsam

Faryl Smith (Soprano)
Adriano Graziani
(Operatic Tenor)
Orlyk - Cwmni Dawns Wcrenaidd
Côr Rhuthun
Côr Ysgol Morgan Llwyd

Nos Wener Mawrth 2ail, 7.30yh
Neuadd William Aston, Wrecsam
Tocynnau £15

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma