Canlyniadau'r chwilio: fyd

Russell Watson

Ni ddychmygodd Russell Watson erioed y byddai’n cael ei ystyried yn un o gantorion clasurol gorau’r byd. Ers cael ei ddisgrifio gan y New York Times fel perfformiwr “sy’n canu fel Pavarotti ac yn diddanu’r gynulleidfa fel Sinatra” rhyddhaodd ddeg albwm stiwdio, gyda phob un yn derbyn canmoliaeth hael gan y beirniaid. Saethodd ei albwm… Darllen rhagor »

Aled Jones

Mae Aled Jones MBE wedi bod yn enw cyfarwydd ers yr 1980au. Bydd yn cael ei gofio am byth fel un o sopranos bechgyn mwyaf llwyddiannus y byd. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn broffesiynol fel plentyn 12 oed yn perfformio rôl yr Angel yn Oratorio Jeptha Handel ar BBC2 a BBC Radio 3. Roedd y… Darllen rhagor »

Manu Delago

Wrth iddo eistedd y tu ôl i’w git drymiau cyntaf yn blentyn dwyflwydd oed dechreuodd Manu Delago ar yr hyn a fyddai’n fywyd ag ogwydd cerddorol iawn, ac erbyn iddo gyrraedd ei arddegau cynnar roedd yn chwarae i wahanol fandiau. Pan ddechreuodd Manu Delago chwarae’r Hang (handpan) yn 2003 darganfu ei angerdd am ysgrifennu cerddoriaeth…. Darllen rhagor »

Britten Sinfonia

Yn 1992 sefydlwyd y Britten Sinfonia fel ailddychmygiad beiddgar o ddelwedd gonfensiynol cerddorfa siambr. Daeth ensemble hyblyg o rai o brif unawdwyr a cherddorion siambr y DU ynghyd gyda gweledigaeth unigryw: chwalu’r ffiniau rhwng cerddoriaeth hen a newydd, cydweithredu â chyfansoddwyr, perfformwyr ac artistiaid gwadd ar draws ffurfiau a genres celfydddol; a chreu digwyddiadau cerddorol… Darllen rhagor »

Anoushka Shankar

Mae darllen rhestr o lwyddiannau Anoushka Shankar fel darllen stori sawl bywyd mewn un: mae’n sitarydd meistrolgar; yn gyfansoddwr ffilm; yn actifydd tanbaid; y ferch ieuengaf i dderbyn Tarian Tŷ’r Cyffredin; y cerddor Indiaidd cyntaf i berfformio’n fyw neu i gyflwyno Gwobrau’r Grammy gyda saith enwebiad i’w henw, a’r ferch gyntaf o India i gael… Darllen rhagor »

Penodi Cynhyrchydd Gweithredol newydd ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Mae’n bleser gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyhoeddi penodiad Camilla King fel ein Cynhyrchydd Gweithredol. Mae Camilla King yn ymuno ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel Cynhyrchydd Gweithredol o’i rôl fel Pennaeth Rhaglennu yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham. Yn brofiadol fel rhaglennydd cerddoriaeth glasurol, a rheolwr prosiect a digwyddiadau gyda gyrfa 20 mlynedd yn y sectorau… Darllen rhagor »

Llyfr Nodiadau Dylan Thomas Llangollen 1953

(English) There are few stories from the 75 years of the Llangollen International Musical Eisteddfod which excite supporters more than the visit of Dylan Thomas in July 1953. He described his visit a few weeks later in a 15 minute broadcast for the BBC Home Service, and generated verbal images of the early Eisteddfod whose power resonates to this day.

Eisteddfod Llangollen yn Galw – Ewch Ati i Bwytho!

Mae’r artist rhyngwladol Luke Jerram yn bwriadu defnyddio ffabrig i weddnewid pont Llangollen! Mae Eisteddfod Llangollen yn galw am bobl i roi help llaw i drawsnewid Pont nodedig Llangollen yn waith celf enfawr er mwyn lansio gŵyl eleni. Mae’r Eisteddfod wedi comisiynu’r artist rhyngwladol o fri Luke Jerram i greu’r gwaith celf newydd. Mae’n bwriadu lapio’r bont 60 metr o hyd mewn clytwaith anferth sy’n adlewyrchu crefftau a diwylliannau Cymru ynghyd â’r cenhedloedd sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl.

Llangollen Ar-lein 2021

Yng ngoleuni’r frwydr fyd-eang barhaus yn erbyn y Coronafeirws, roeddem am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ein cynlluniau ar gyfer Llangollen Ar-lein 2021 sy’n cael ei addasu i adlewyrchu’r amgylchedd yr ydym i gyd bellach yn byw ynddo. Fel y gwyddoch, rydym wedi atal yr elfen gystadlu byw traddodiadol ar gyfer Llangollen 2021, ac ail-ddychmygu… Darllen rhagor »

Diweddariad COVID-19 – Llangollen 2021

Yng ngoleuni’r frwydr fyd-eang barhaus yn erbyn y Coronafeirws, rydym yn gweithio ar gynlluniau i addasu fformat Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar gyfer Gorffennaf 2021. Mae ansicrwydd sylweddol yn parhau ynghylch y posibilrwydd o gynnal digwyddiadau torfol yng Nghymru yn ystod haf 2021, rydym hefyd yn cydnabod y byddai’r cyfyngiadau Covid-19 sydd mewn grym ledled… Darllen rhagor »